SL(5)288 - Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru a Lloegr) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r rheoliadau cyfansawdd hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau i ddau ddeddfiad, Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 ("Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol") a Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Deddf 1990").  Mae diwygiadau i Ddeddf 1990 yn dod i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig.

Mae'r offeryn hwn yn diwygio'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol er mwyn gwella cymhwysedd gweithredwyr mewn safleoedd gwastraff a ganiateir trwy gyflwyno gofynion ar gyfer systemau rheoli ysgrifenedig a thrwy ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr hysbysu'r rheoleiddiwr ei fod yn cydymffurfio â chynllun cymhwysedd technegol.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Rheol Sefydlog 21.2(ix): Gwnaed y Rheoliadau yn Saesneg yn unig. Gwnaed y rheoliadau ar sail Cymru a Lloegr.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae rhannau o'r rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan adran 2 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ("y Ddeddf"), felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i fod mewn grym yng Nghymru ar ôl y diwrnod ymadael. Mae'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu'r Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael â’r UE, yn amodol ar rai cyfyngiadau.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn dweud: "This instrument makes amendments to existing enactments and is being made on a composite basis by the Welsh Ministers (in relation to Wales) and by the Secretary of State (in relation to England). As this composite instrument is subject to scrutiny by the National Assembly for Wales and by the UK Parliament, it is not considered reasonably practicable for this instrument to be made or laid bilingually."

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Tachwedd 2018